Dyddiad yr Adroddiad

02/21/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202105284

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar bartner, Mr B. Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ag asesu a gwneud diagnosis cywir o gyflwr Mr B pan aeth i’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar 24 Chwefror 2020. Cwynodd Ms A hefyd na chafodd Mr B ei gynghori i ddychwelyd i’r Adran Achosion Brys pe byddai ei gyflwr yn gwaethygu.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Mr B wedi cael ei asesu na’i ddiagnosio’n briodol pan aeth i’r Adran Achosion Brys. Cafodd Mr B ei ryddhau i’w gartref yn rhy fuan heb i’r profion priodol gael eu cwblhau. Er na fyddai’r methiannau hyn wedi newid y canlyniad clinigol i Mr B, penderfynwyd bod hyn yn anghyfiawnder iddo ef a Ms A, a oedd wedyn wedi gorfod ceisio ei ddadebru gartref. Nid oedd yn bosibl penderfynu pa gyngor a roddwyd i Ms A a Mr B pan gafodd ei ryddhau o’r Adran Achosion Brys. O ganlyniad, nid oedd yr Ombwdsmon yn gallu dod i benderfyniad ar y rhan honno o’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd a thalu £1500 iddi. Cytunodd hefyd i rannu adroddiad yr ymchwiliad gyda’r staff perthnasol ac adolygu ei weithdrefnau ar gyfer asesu poen yn y frest yn yr Adran Achosion Brys er mwyn mynd i’r afael â’r methiannau a nodwyd.