Dyddiad yr Adroddiad

02/16/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202003476

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cafodd Mr X ddiagnosis o glioblastoma amlffurf yn yr ymennydd (math ymosodol o ganser) a phenderfynwyd ei fod i gael gofal lliniarol gartref. Ar 7 Hydref 2019, cafodd ei atgyfeirio gan Ysbyty Prifysgol Walton (canolfan atgyfeirio arbenigol y GIG y tu allan i Gymru) ac at ei Wasanaeth Nyrsio Ardal lleol. Ar 1 Tachwedd, cyfeiriodd meddyg teulu Mr X ef at ei Dîm Gofal Lliniarol lleol. Yn anffodus, bu farw Mr X ar 29 Tachwedd. Cwynodd merch Mr X, Ms Y, am y gofal lliniarol a’r driniaeth a gafodd ei thad gartref rhwng 7 Hydref a 29 Tachwedd 2019.
Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr X gan y Tîm Gofal Lliniarol a Nyrsys Ardal o safon resymol. Fodd bynnag, canfu fod cofnodion Nyrsio Ardal ar gyfer 7 ac 11 Tachwedd wedi’u cofnodi 4 mis yn ddiweddarach. Mae hyn yn bwrw amheuaeth ar eu cywirdeb. Ar y sail honno, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn yn rhannol.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon ac ymddiheuro i Mrs X a Ms Y am y methiannau, ac y dylid atgoffa pob aelod o’r Tîm Nyrsio Ardal o Ganllawiau Cadw Cofnodion y Coleg Nyrsio Brenhinol ynghylch cadw cofnodion clir a chyfredol.