Dyddiad yr Adroddiad

10/25/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202204219

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb iddi i’w chŵyn a gyflwynodd ym mis Mawrth 2022.

Wrth wneud ymholiadau gyda’r Bwrdd Iechyd, hysbyswyd yr Ombwdsmon bod yr ymateb yn ei gamau olaf. Roedd yr Ombwdsmon yn poeni am yr oedi a bod camau’r Bwrdd Iechyd wedi achosi anhwylustod i Miss X ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Miss X a rhoi ymateb i’w chŵyn o fewn 10 diwrnod gwaith.