Dyddiad yr Adroddiad

08/03/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107577

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Dechreuwyd ymchwiliad yn erbyn y Bwrdd Iechyd wedi i’r Ombwdsmon dderbyn cwyn gan Mr X ynghylch y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar dad gan y Bwrdd Iechyd.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r ymchwiliad yn derbyn methiannau na chawsant eu cydnabod yn ei ymateb gwreiddiol i’r gŵyn. Yng sgil hyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i’r camau gweithredu canlynol i ddatrys y gŵyn hon:

O fewn 31 diwrnod gwaith

a) Darparu ymddiheuriad i Mr X am y methiant yn yr ymchwiliad gwreiddiol i nodi’r methiannau a dderbyniwyd bellach gan y Bwrdd Iechyd

b) Sicrhau bod y Meddyg a gynhaliodd yr ymchwiliad gwreiddiol yn ymgymryd â dysgu myfyriol ar y gwall a wnaed yn yr ymchwiliad hwnnw

c) Talu £500 i Mr X am yr amser, y drafferth a’r anghyfleustra o orfod cyflwyno ei bryderon i’r Bwrdd Iechyd a’r Ombwdsmon.

O fewn 3 mis

d) Ystyried cwyn Mr X eto mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r broses Gweithio i Wella (fel bod unrhyw iawndal priodol yn cael ei nodi) a’i hysbysu o’r canlyniad.