Dyddiad yr Adroddiad

07/22/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200953

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A na chafodd wybod ym mis Mai 2021 am y risg o golli ei babi yn dilyn sgan 13 wythnos. Cwynodd hefyd am y diffyg monitro a chyfathrebu mewnol rhwng adrannau. Roedd y materion eraill y cwynwyd amdanynt yn cynnwys aelod staff yn ansensitif wrth drafod awtopsi, a threfniadau ystafell aros yn yr ysbyty yn dilyn camesgoriad.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad ei bod yn rhesymol i’r Bwrdd Iechyd roi sylw i nifer o faterion. Fodd bynnag, roedd hi’n bryderus nad oedd yr ymddiheuriad a dderbyniwyd am y methiannau cyfathrebu yn ystod y sgan 13 wythnos yn cydnabod y mater yn llawn. Penderfynodd setlo’r gŵyn.

Ceisiodd a derbyniodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig taliad iawndal ariannol o £1,000 i Ms A, i gydnabod y trallod a’r trawma sylweddol a achoswyd iddi hi a’i theulu.