Dyddiad yr Adroddiad

07/27/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202102573

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu â gwneud diagnosis, a/neu roi gwybod am ddiagnosis, o endometriosis (cyflwr lle mae meinwe sy’n debyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill fel yr ofarïau), naill ai’n fewnol, neu i Miss X, o fewn amserlen resymol a phriodol.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod diagnosis posibl o endometriosis wedi cael ei ystyried am y tro cyntaf yn 2014 pan gafodd Miss X dynnu dau syst ofarïaidd, nad oedd dadansoddiad o samplau o’r syst yn awgrymu eu bod yn endometriosis. Cafodd Miss X ddiagnosis o endometriosis yn 2021, ond er y gallai diagnosis cynharach fod wedi bod yn bosibl wrth edrych yn ôl, nid oedd hyn yn afresymol o ystyried canfyddiadau histoleg yn 2014 ac ni fyddai diagnosis cynharach wedi newid triniaeth Miss X. Er i’r diagnosis o endometriosis gael ei wneud ym mis Chwefror 2021, roedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Miss X ar ôl y dyddiad hwn yn dweud nad oedd hyn yn wir, ac roedd hyn yn anghywir. I’r graddau hynny’n unig, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro a thalu £250 i Miss X i adlewyrchu’r trallod a achoswyd iddi gan yr anghywirdeb yn yr ymateb i’r gŵyn.