11/05/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202200554
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cwynodd Mr X, er iddo gyflwyno cwyn ffurfiol i’r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2021, nad oedd y Bwrdd Iechyd eto wedi ymateb i’w bryderon.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X eto wedi cael ymateb i’w bryderon a chysylltodd â’r Bwrdd Iechyd. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu i Mr X lythyr o ymddiheuriad am yr oedi erbyn 31 Mai 2022, a hefyd gyflwyno ymateb ysgrifenedig i’w bryderon erbyn 30 Mehefin 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod hyn yn bodloni cwyn Mr X.