Dyddiad yr Adroddiad

03/25/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106638

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan adran wroleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dywedodd Miss B ei bod yn dioddef poen parhaus oherwydd ei chyflwr.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
a) Mae’r Bwrdd Iechyd, mewn ymateb i’r Ombwdsmon, eisoes wedi cysylltu â Ms B i gael gwybod am ei phryderon. Bydd y Bwrdd Iechyd yn rhoi ymateb ysgrifenedig llawn i gŵyn Ms B mewn ymateb i’r pryderon hynny o fewn 30 diwrnod gwaith.
b) Bydd y Bwrdd Iechyd yn cynnig apwyntiad i Ms B gydag Wrolegydd Ymgynghorol newydd o fewn 20 diwrnod gwaith.