Dyddiad yr Adroddiad

03/24/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106350

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X am faterion amrywiol yn ymwneud â gofal ei diweddar fam yn yr ysbyty, gan gynnwys (ymysg materion eraill) cyfathrebu am brognosis, diagnosis sepsis, ymweliadau cyfyngedig a gofal nyrsio.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb ysgrifenedig cynhwysfawr i’r pryderon cymhleth a godwyd wedi ei gyhoeddi eto, fwy na 6 mis ar ôl i Miss X gwyno’n wreiddiol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i anfon ymateb ysgrifenedig at Miss X o fewn 40 diwrnod gwaith. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵn ac felly ni ymchwiliodd.