Dyddiad yr Adroddiad

11/15/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202001464

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms B am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ferch, Ms C, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ar 4 Chwefror 2019. Yn benodol, cwynodd Ms B fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu gofal a thriniaeth briodol i Ms C, wedi methu â chynnal profion ac archwiliadau priodol, yn benodol sgan ar yr ymennydd, a’i bod yn amhriodol rhyddhau Ms C i fynd adref o’r Adran Endocrinoleg. Mewn ymateb i dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad, defnyddiodd yr Ombwdsmon “ei bŵer ymchwilio ei hun” o dan Adran 4 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 i ehangu’r ymchwiliad i ystyried, fel cwyn ychwanegol, a dderbyniodd Ms C ofal a thriniaeth briodol gan Adran Endocrinoleg y Bwrdd Iechyd.

Canfu’r ymchwiliad hefyd fod Ms B wedi derbyn rheolaeth briodol wrth yr Adran Endocrinoleg. O edrych yn ôl, er y gallai’r endocrinolegydd fod wedi ystyried a oedd achos arall i symptomau Ms C, roedd ei gynllun rheoli yn briodol. Yn unol â hynny, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gŵyn Ms B.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms B a gwneud taliad o ÂŁ750 mewn perthynas â’r methiannau a nodwyd. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd rannu’r adroddiad gyda’r staff clinigol perthnasol a chadarnhau bod yr adroddiad wedi’i ddefnyddio ar gyfer myfyrio beirniadol. I gloi, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa’r clinigwyr yn ei Adran Endocrinoleg o bwysigrwydd cynnal archwiliadau niwrolegol llawn.