Dyddiad yr Adroddiad

08/03/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100869

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am agweddau ar ofal a thriniaeth ei ddiweddar fab. Wrth ystyried y gŵyn, nododd yr Ombwdsmon nad oedd Mr A eto wedi cael ymateb llawn i’w gŵyn gan y Bwrdd Iechyd.

Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau ei ymchwiliad i bryderon Mr A a rhoi ymateb iddo o fewn 20 diwrnod gwaith.