Dyddiad yr Adroddiad

04/23/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005689

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X i’r Ombwdsmon am y gofal yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (y Bwrdd Iechyd) wedi’i ddarparu i’w ddiweddar fab. Roedd Mr X wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd ym Mai 2020 ac wedi cael ymateb yn Hydref 2020. Fodd bynnag, wrth wneud ei gŵyn i’r Ombwdsmon, roedd Mr X wedi cyflwyno pum mater penodol a oedd yn peri pryder a oedd heb gael sylw yn ymateb gwreiddiol y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn.

Yn dilyn trafodaethau â’r Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 4 wythnos:

yn darparu ymateb i Mr X ar y pum mater a oedd heb eu crybwyll yr oedd Mr X wedi’u codi gyda’r Ombwdsmon.