Dyddiad yr Adroddiad

09/02/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202003520

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs X nad oedd y staff nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) wedi monitro ei cholled gwaed yn briodol yn ystod gwaedlif ar ôl rhoi genedigaeth. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Daeth yr archwiliad i’r casgliad fod colled gwaed Mrs X wedi cael ei fonitro’n briodol a bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’w cholled gwaed yn gyflym ac yn briodol. Roedd methiant o ran cofnodi arsylwadau Mrs X ar y cyfnodau gofynnol, fodd bynnag, ni wnaeth hyn effeithio ar ofal cyffredinol Mrs X, nac achosi anghyfiawnder iddi.

Roedd safon y cyfathrebu rhwng staff y Bwrdd Iechyd a Mrs X yn is na’r safon ddisgwyliedig. Fodd bynnag, yn dilyn y digwyddiad, datblygodd y Bwrdd Iechyd daflen wybodaeth i gleifion ochr yn ochr â chyfathrebu ar lafar. Roedd hyn yn enghraifft o arfer da a ddylai atal rhywbeth tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.