Dyddiad yr Adroddiad

08/09/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100359

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w gŵr, Mr A, yn dilyn amheuaeth o strôc ar 17 Mawrth 2019. Yn benodol, cwynodd fod oedi wrth ddiagnosio diabetes, bod y broses o gadw cofnodion wedi bod yn wael, a’i bod yn teimlo nad oedd ansawdd a phrydlondeb ymateb ysgrifenedig y Bwrdd Iechyd i’w chwyn wedi bod yn ddigonol.
Canfu asesiad yr Ombwdsmon y bu oedi wrth ddiagnosio diabetes Mr A ond nad oedd yn ymddangos bod unrhyw niwed clinigol wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i’r methiant hwn. Canfu’r asesiad hefyd fod y modd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â chwyn Mrs A wedi bod yn wael, gan adael Mrs A gyda chwestiynau heb eu hateb, ond nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle eto i ymateb i’r holl bryderon a fynegodd Mrs A i’r Ombwdsmon.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis, i ysgrifennu at Mrs A ac ailadrodd ei ymddiheuriad am y methiannau mewn gofal, ymddiheuro am y safon wael o ran delio â chwynion, rhoi iawndal o £250 i gydnabod y ffordd wael y deliwyd â chwynion a’r angen i Mrs A gysylltu â’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r pryderon a godwyd ganddi ynghylch yr anghywirdeb a’r gwallau sillafu a amlygwyd ganddi yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.