Dyddiad yr Adroddiad

05/06/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005739

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am boen barhaus, yn dilyn llawdriniaeth trwsio torllengig. Cwynodd ei fod wedi cael gwybod pethau gwahanol gan wahanol lawfeddygon yn y Bwrdd Iechyd ac nad oedd wedi sylweddoli y gallai poen parhaus ddeillio o’i lawdriniaeth wreiddiol.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i drefnu i weld Mr X yn ei Glinig Poen, i ymchwilio i ffynhonnell ei boen, a hefyd iddo gael ei weld gan glinigydd o fwrdd iechyd cyfagos er mwyn cael barn annibynnol ynghylch a oedd angen rhagor o lawdriniaeth arno. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn setliad priodol.