Dyddiad yr Adroddiad

12/12/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202022

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cododd Mrs A nifer o bryderon ar ran ei diweddar dad, Mr B, am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2021 yn dilyn ei ddiagnosis o ganser.

Er nad oedd rhai o bryderon Mrs A yn bodloni’r gofynion ar gyfer ymchwiliad gan yr Ombwdsmon, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb cadarn i 2 fater. Y rhain oedd bod y Bwrdd Iechyd wedi:

• trefnu bod ambiwlans yn ei drosglwyddo rhwng safleoedd ysbyty yn groes i ddymuniadau Mr B ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd ei atal rhag symud yn ddiangen ar gludwr gwynt a oedd wedi achosi dryswch a gofid

• cychwyn trafodaeth ansensitif wedi’i hamseru’n wael gyda Mr B ynghylch a oedd yn dymuno cael proses adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) petai ataliad ar y galon yn digwydd ac ni chafodd ei farn ei hystyried.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac, er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd i ddarparu ymateb mwy ystyriol i’r mater cyntaf ac i rannu cwyn Mrs A gyda’r meddyg a siaradodd â Mr B am CPR er mwyn rhoi cyfle i ddysgu ac ymarfer ystyriol.