Dyddiad yr Adroddiad

03/14/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106387

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi darparu gofal a thriniaeth amhriodol pan aeth i’r Adran Achosion Brys. Dywedodd Mrs A iddi gael diagnosis anghywir, a arweiniodd at ei rhyddhau’n rhy gynnar a dioddef pwl difrifol o asthma, gan orfod dychwelyd o fewn 6 awr, a thriniaeth am sawl diwrnod yn yr Uned Gofal Dwys.
Penderfynodd yr Ombwdsmon na ddylai Mrs A fod wedi cael ei rhyddhau, ond y dylai fod wedi aros yn yr ysbyty i gael rhagor o arsylwadau a thriniaeth, yn ôl yr angen. Mae Mrs A wedi cael ei gadael gyda’r ansicrwydd pe bai rhagor o arsylwi fel claf mewnol wedi digwydd yn y lle cyntaf, y gallai hynny fod wedi newid y canlyniad ac wedi osgoi’r pryder iechyd y mae’n ei briodoli i’w phrofiad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A, a darparu’r adborth perthnasol i Feddyg yr Adran Achosion Brys a’r tîm ehangach, ar gyfer dysgu a datblygu.