Dyddiad yr Adroddiad

12/10/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202104771

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd y deliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) â’i gŵyn. Yn benodol, bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â symud ymlaen at Ran 6 o dan y Rheoliadau Gweithio i Wella (PTR, sef y broses ar gyfer codi pryderon neu gwynion yn GIG Cymru, cyn penderfynu a oedd atebolrwydd dilys yn codi neu beidio.

Awgrymodd y dystiolaeth fod y Bwrdd Iechyd wedi ymddwyn yn unol â’r PTR wrth ystyried y gŵyn. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn poeni’n bennaf am wybodaeth oedd wedi’i hepgor o’r ymateb PTR olaf a safon y cyfathrebu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd a gytunodd, o fewn mis, i roi esboniad llawn o’i atebolrwydd dilys, ymddiheuro am fethu â rhoi’r wybodaeth yma’n gynt ac ymateb i ohebiaeth yn amserol, ac adolygu’r ffordd y mae’n delio â chwynion, ar sail y diffygion a nodwyd.