Dyddiad yr Adroddiad

11/15/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005461

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â nodi a rhoi diagnosis i’w mab, P, sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)/Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) am gyfnod o tua 8 mlynedd.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er bod symptomau clinigol ac arwyddion o ASD/ADHD posib yn bresennol rhwng 2013 a 2014, roedd ambell ansicrwydd diagnostig dilys bryd hynny. Pan gafodd P ei weld gan Feddyg Ymgynghorol mewn Seiciatreg Plant a’r Glasoed yn 2014 a 2015, daeth y Meddyg Ymgynghorol i’r casgliad fod diffyg symptomau a nam yn golygu na ellid gwneud diagnosis pendant o ASD/ADHD. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y casgliadau yn unol â’r arweiniad a’r ymchwil bryd hynny.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Ms C.