Dyddiad yr Adroddiad

07/01/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202108582

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Ms A am y gofal a roddwyd iddi gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi camreoli’r driniaeth o lwmp yn rhan isaf ei chroth oherwydd ei fod wedi camddiagnosio’r lwmp fel polyp (tyfiant) ac wedi methu ag egluro’r risgiau sy’n gysylltiedig â’i dynnu, wedi methu â rhoi anesthetig lleol iddi wrth ei dynnu, ac wedi methu archwilio’r gwaedu cysylltiedig cyn ei chaniatáu i adael y clinig perthnasol. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio a delio â’i chwyn yn briodol.

Gofynnodd y Bwrdd Iechyd i’r Ombwdsmon a allai ymchwilio i bryderon Ms A am ei thriniaeth yn unol â’r rheoliadau trin cwynion (“y Rheoliadau”). Roedd yn nodi, wrth wneud y cais hwnnw, fod corff iechyd arall (“y Corff Iechyd Arall”) wedi ymateb i’r pryderon hynny. Dywedodd hefyd fod y Corff Iechyd Arall wedi gwneud hynny oherwydd y gofal cysylltiedig yr oedd wedi’i roi i Ms A ac oherwydd ei gyflogaeth o’r Gynaecolegydd Ymgynghorol a oedd wedi’i thrin fel rhan o drefniant comisiynu. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i’r pryderon ynghylch gofal clinigol yr oedd Ms A wedi’u nodi yn ei chwyn yn iddi hi. Roedd o’r farn bod Ms A wedi dioddef anghyfiawnder, ar ffurf siom a gofid, oherwydd hynny.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, yng ngoleuni cais y Bwrdd Iechyd i ymchwilio, y byddai’n briodol ceisio setlo cwyn Ms A. Ar ôl hynny, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymchwilio i bryderon gofal clinigol Ms A yn unol â’r Rheoliadau, i adolygu’n ffurfiol ei ddull o ymdrin â chwynion am ofal wedi’i gomisiynu a sut mae’n ymdrin â’i chwyn, i baratoi cynllun gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion a nodwyd yn ystod ei hadolygiad o drin cwynion ac i ysgrifennu at Ms A i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi am ganlyniad yr adolygiad hwnnw. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i’w cymryd yn rhesymol. Yn unol â hynny, roedd cwyn Ms A wedi cael ei setlo ym marn yr Ombwdsmon.