Dyddiad yr Adroddiad

01/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202204860

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr L i’r Ombwdsmon am broblemau cyfathrebu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch gwybodaeth am apwyntiadau a thriniaeth ei wraig. Roedd Mr L yn anhapus ei fod wedi anfon llythyrau at y Bwrdd Iechyd ond heb gael ymateb boddhaol.

Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi egluro ei gyfrifoldeb am driniaeth gwraig Mr L yn glir ac yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011. Er bod yr Ombwdsmon yn cydnabod bod y Bwrdd wedi ymddiheuro’n llafar i Mr L, nid oedd yn fodlon bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud digon.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr L am y diffyg eglurder wrth gyfathrebu â fo ynglŷn â chydlynu ymateb i’w gŵyn, ac y byddai’n gwneud hynny o fewn 20 diwrnod gwaith.