Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202734

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi dangos diffyg gofal a phroffesiynoldeb a’i bod yn credu bod hynny wedi cyfrannu at farwolaeth ei thad.
Wrth ystyried yr wybodaeth a gafwyd gan Ms X a’r Bwrdd Iechyd, nodwyd nad oedd ei phryderon wedi eu rhoi drwy’r broses Gweithio i Wella. Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnal ymchwiliad o dan y broses hon a’i fod yn cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 3 mis.