Dyddiad yr Adroddiad

09/13/2022

Achos yn Erbyn

Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202911

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod y Bwrdd Iechyd wedi ei chamddiagnosio dro ar ôl tro mewn perthynas â lichen sclerosus (cyflwr croen).
Canfu’r Ombwdsmon, er bod Ms A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd, nad oedd wedi darparu ymateb llawn a therfynol i’w chŵyn ynghylch diagnosis lichen sclerosus a’r driniaeth yr oedd wedi ei darparu, neu nad oedd wedi ei darparu, i Ms A.
O ganlyniad, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, a chytunodd i gwblhau’r camau canlynol erbyn 26 Hydref 2022 wrth setlo cwyn Ms A ac fel dewis amgen i ymchwiliad:
a) Ymddiheuro i Ms A am fethu â darparu ymateb ynghylch ei chyflwr lichen sclerosus ynghynt.
b) Darparu ymateb i’r gŵyn.
c) Cynnig £100 i Ms A i dalu am ei hamser a’r drafferth o gyflwyno cwyn.