Dyddiad yr Adroddiad

01/12/2024

Achos yn Erbyn

Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200969

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar wraig, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn Ysbyty Tywysoges Cymru (“yr Ysbyty”) rhwng 9 Rhagfyr a 15 Rhagfyr 2020.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y gofal nyrsio a ddarparwyd i Mrs A yn yr Ysbyty wedi bodloni’r safonau a ddisgwylir. Nid oedd y dogfennau nyrsio a oedd ar gael yn rhoi sicrwydd bod anghenion Mrs A o ran maeth, mynd i’r toiled a gofal croen wedi’u diwallu. O ganlyniad, gallai Mrs A fod wedi dioddef chwant bwyd, anghysur a gofid y gellid bod wedi’u hosgoi. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod timau nyrsio a thimau meddygol wedi methu â gweithredu’n ddi-oed pan ddechreuodd cyflwr Mrs A ddirywio. Arweiniodd hyn at oedi gormodol cyn darparu adolygiad uwch a rhoi gwrthfiotigau. Am y rhesymau hyn, cadarnhawyd y gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon. Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro a thalu £1,000 i Mr A i adlewyrchu’r gofid a achoswyd gan y methiannau a nodwyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i drefnu bod adroddiad yr ymchwiliad yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd llywodraethu clinigol priodol ar gyfer staff nyrsio a staff meddygol yn yr Ysbyty.