Dyddiad yr Adroddiad

04/14/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100430

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms J fod ei thad, Mr T, wedi’i ryddhau’n amhriodol o’r ysbyty heb weld arbenigwr ar yr arennau a heb gynnal ymchwiliadau llawn, bod methiannau yn y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Mr T pan gafodd ei dderbyn yr eildro, ac nad ymchwiliwyd yn briodol i’r rhesymau dros ei ddryswch. Yn ogystal â hyn, cwynodd Ms J, er bod ei thad yn fregus ac yn ansad, fod staff wedi methu â chymryd camau i’w ddiogelu rhag syrthio a’i fod wedi syrthio deirgwaith pan gafodd ei dderbyn yr eildro, ac mai am ddau o’r achosion hynny’n unig y cafodd ei deulu wybod. Cwynodd Ms J ymhellach fod staff meddygol wedi gorchymyn “peidiwch â cheisio adfywio’r galon a’r ysgyfaint ” (“DNACPR”) heb ymgynghori â theulu Mr T.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn bod Mr T wedi’i ryddhau’n amhriodol pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty y tro cyntaf. Canfu’r Ombwdsmon fod ymchwiliad priodol wedi’i wneud i’w broblemau gyda’r arennau a bod triniaeth briodol wedi’i rhoi, ac er na chafodd ei weld gan arbenigwr ar yr arennau pan gafodd ei dderbyn, cafodd ei drafod gan y tîm arennol y diwrnod ar ôl iddo gael ei ryddhau a gwnaed trefniadau dilynol priodol. Canfu’r Ombwdsmon hefyd bod ymchwiliad priodol wedi’i gynnal i symptomau Mr T ac y rhoddwyd triniaeth briodol iddo pan gafodd ei dderbyn yr eildro, ac ni chadarnhaodd y gŵyn.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn bod staff wedi methu â chymryd camau priodol i leihau’r risg o syrthio a nodwyd a chanfu y dylai ei deulu fod wedi cael gwybod am bob achos o syrthio. Achosodd y methiannau hyn drallod ac anesmwythyd i Mr T a phryder ychwanegol i’w deulu.
Canfu’r Ombwdsmon fod y penderfyniad DNACPR yn briodol yn glinigol, ac nad oedd unrhyw ofyniad i ymgynghori â Mr T na’i deulu ymlaen llaw. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn. Noder: Paratoir crynodebau ar gyfer pob adroddiad a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon. Gallai’r crynodeb hwn gael ei ddangos ar wefan yr Ombwdsmon a gellir ei gynnwys mewn cyhoeddiadau a gyhoeddir gan y Llywodraeth a/neu mewn cyfryngau eraill. Os hoffech drafod y defnydd o’r crynodeb hwn, cysylltwch â swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms J o fewn mis i’r adroddiad. Argymhellodd yr Ombwdsmon ymhellach y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 3 mis i’r adroddiad, gynnal archwiliad o ddogfennau atal cwympiadau ar gyfer cleifion y bernir eu bod mewn perygl mawr o syrthio, a darparu tystiolaeth o’r canlyniad.