Dyddiad yr Adroddiad

12/09/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202004090

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A am y gofal a dderbyniodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Dywedodd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ei chynghori i beidio â chael llawdriniaeth i dynnu polyp (twf) o’i choluddyn bach (“y Llawdriniaeth”) oherwydd y risg gysylltiedig o haint. Dywedodd ei bod wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty cyn pryd, a heb gyffuriau gwrth-fiotig, ar ôl y Llawdriniaeth. Dywedodd nad oedd wedi derbyn y gofal dilynol oedd ei angen arni ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty.

Ni chasglodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi cynghori Mrs A i beidio â chael y Llawdriniaeth oherwydd y risg gysylltiedig o haint am nifer o resymau. Derbyniodd er enghraifft, y gallai polyp Mrs A, pe na bai wedi cael ei dynnu, fod wedi blocio ei choluddyn bach a chynyddu ei risg o ganser. Casglodd fod amseriad rhyddhau Mrs A o’r ysbyty yn glinigol rhesymol. Roedd hefyd yn fodlon nad oedd yn glinigol angenrheidiol na’n briodol i’r Bwrdd Iechyd fod wedi rhagnodi cyffuriau gwrth-fiotig i Mrs A ar y pryd. Derbyniodd nad oedd peth o’r gofal dilynol a dderbyniodd Mrs A cystal ag y dylai fod wedi bod, am ddau reswm. Yn gyntaf, nid oedd Llawfeddyg Ymgynghorol (“Llawfeddyg”) Mrs A wedi ei hadolygu’n bersonol dros y cyfnod pryd y lleisiodd ei meddygfa bryderon am ei briw. Yn ail, roedd y Llawfeddyg wedi cymryd tua wyth mis i roi llawdriniaeth bellach iddi ar ôl adnabod bod ei angen ar Mrs A i gywiro’r trafferthion yn ymwneud â’i briw. Fodd bynnag, casglodd yr Ombwdsmon fod y diffygion hynny wedi digwydd ar ôl i bandemig (clefyd newydd yn lledu drwy’r byd) Covid-19 (clefyd heintus a achosir gan feirws newydd) ddechrau, oedd wedi cyfyngu’n sylweddol ar gapasiti cyrff iechyd, fel y Bwrdd Iechyd, i drin cyflyrau nad oeddent yn ymwneud â Covid-19. Casglodd fod y gofal dilynol a dderbyniodd Mrs A yn rhesymol. Ni dderbyniodd unrhyw ran o gŵyn Mrs A.