Dyddiad yr Adroddiad

07/01/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005974

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y modd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi rheoli ei chamesgoriad (colli beichiogrwydd) ym mis Ionawr 2020. Dywedodd Mrs A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi adnabod ei chamesgoriad pan gafodd hi symptomau am y tro cyntaf, ac ni wnaethon nhw chwaith gynnal sgan uwchsain i gadarnhau bod y camesgoriad wedi’i gwblhau’n llawn, ei chynghori pryd i gael cyngor ynglŷn â chymhlethdodau, ac i ddarparu gofal tosturiol pan gafodd ei derbyn yn ddiweddarach fel achos brys gyda chymhlethdodau.

Ni allai’r Ombwdsmon ddweud yn bendant bod baban Mrs A wedi marw pan gyflwynodd symptomau am y tro cyntaf ac o ganlyniad ni allai ganfod bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â nodi ei chamesgoriad. Yn ogystal â hyn, ni nodwyd yn glinigol y byddai sgan uwchsain cynharach wedi gwneud gwahaniaeth ac ni fyddai o reidrwydd wedi bod yn bendant o ran nodi’r cymhlethdodau yr aeth ymlaen i’w hwynebu. O ran derbyniad brys Mrs A i’r ysbyty, trefnwyd ystafell ochr ar gyfer preifatrwydd gyda chymorth gwell gan y Fydwraig Profedigaeth a oedd yn darparu gofal priodol a chefnogol. Fodd bynnag, mae cofnod y Bwrdd Iechyd o’r trafodaethau gyda Mrs A am gael gwared o’i beichiogrwydd yn parhau a gwelwyd bod cymhlethdodau posib camesgoriad yn wael. Mae’r diffyg tystiolaeth wedi arwain at elfen o amheuaeth ynghylch y dewis a wnaeth Mrs A o ran cael gwared ar ei beichiogrwydd, ac roedd hi’n difaru hynny, a’r posibilrwydd ei bod hi wedi gohirio gofyn am ofal meddygol brys am nad oedd hi wedi cael cyngor priodol. Achosodd hyn boen a thrallod diangen i Mrs A.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal ariannol o £500 iddi i gydnabod yr ansicrwydd a’r trallod a achoswyd. Dylai hefyd rannu canfyddiadau’r ymchwiliad â’i fydwragedd i sicrhau dysgu sefydliadol.