Dyddiad yr Adroddiad

08/17/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Trafnidiaeth Ysgol

Cyfeirnod Achos

202003331

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr X ar ran ei ferch, C, fod y Cyngor wedi rhoi ei Bolisi Cludo o’r Cartref i Ysgol a Choleg ar waith yn anghywir.

Canfu’r Ombwdsmon fod C yn gymwys i gael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol oherwydd y pellter yr oedd yn byw o’r ysgol. Nid oedd gan C hawl i gludiant am ddim i’r ysgol uwchradd o’i dewis (“yr Ysgol Uwchradd Gyntaf”). Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod brodyr C, A a B, wedi cael cludiant am ddim drwy gamgymeriad i’r Ysgol Uwchradd Gyntaf pan nad oedd ganddynt hawl i hynny, a bod hynny yn gamweinyddu. Hefyd, ni ddwedwyd wrth Mr a Mrs X bod A a B wedi cael cludiant am ddim i’r Ysgol Uwchradd Gyntaf y tu allan i delerau’r Polisi, ac roedd hynny hefyd yn gamweinyddu.

Ni nodwyd y camweinyddu hwn pan oedd A a B yn yr Ysgol Uwchradd Gyntaf oherwydd bod y trefniadau ar gyfer y bechgyn yn cyd-fynd â disgwyliadau’r teulu. Felly nid oedd hyn yn achosi unrhyw anghyfiawnder i’r bechgyn. Fodd bynnag, pan broseswyd cais C am gludiant, canfuwyd y camweinyddu cynharach a gwrthodwyd ei chais. Achosodd hyn anghyfiawnder i C. Felly, cafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Roedd y ffordd hir yr ymdriniwyd â’r cais yn cyfrannu at yr anghyfiawnder a brofodd C. Gwnaed ei chais am gludiant ym mis Tachwedd 2019. Ni chafodd ganlyniad y broses apelio tan fis Hydref 2020, bron flwyddyn yn ddiweddarach a mis ar ôl iddi ddechrau mynychu’r Ysgol Uwchradd Gyntaf.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor, o fewn 1 mis, ymddiheuro i Mr a Mrs X ac C am y camweinyddu, ac y dylai drefnu cludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim i C y tu allan i delerau’r Polisi, nes i C orffen ei hastudiaethau yn yr Ysgol Uwchradd Gyntaf.

Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Cyngor, o fewn 6 mis, ddiwygio’r Polisi er mwyn esbonio pan fydd myfyrwyr yn cael cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol y tu allan i delerau’r Polisi, y dylid eu hysbysu bod eu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol wedi’i roi y tu allan i delerau’r Polisi, a sicrhau bod apeliadau yn erbyn penderfyniadau cludiant ysgol yn cael eu penderfynu cyn dechrau tymor yr Hydref pan fo hynny’n bosibl.