Dyddiad yr Adroddiad

02/09/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Trafnidiaeth Ysgol

Cyfeirnod Achos

202107134

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd Mr X yn anhapus bod trefniant cludiant rhwng y cartref a’r ysgol oedd wedi cael ei roi yn ei le ar gyfer adegau pan oedd ei fab yn aros gydag ef dros nos wedi cael ei ganslo heb ymgynghori a heb rybudd ymlaen llaw. Dywedodd fod hyn wedi golygu nad oedd wedi gallu gweld ei fab.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod Mr X wedi cwyno wrth y Cyngor ac wedi cael ymateb ffurfiol cam 1, nid oedd y Cyngor eto wedi symud y gŵyn ymlaen i gam 2 ei weithdrefn.
Cytunodd y Cyngor i symud cwyn Mr X ymlaen i gam 2 a chyhoeddi ymateb ffurfiol cam 2 erbyn 28 Chwefror 2022. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau roedd y Cyngor wedi cytuno i’w cymryd yn rhesymol ac y byddai hyn yn fodd o ddatrys y gŵyn, yn hytrach nag ymchwilio iddi.