Dyddiad yr Adroddiad

01/25/2022

Achos yn Erbyn

Tai Cymunedol Bron Afon

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202104846

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Tai Cymunedol Bron Afon Cyf (“y Gymdeithas”) wedi gwrthod newid y llawr yn ei estyniad. Cwynodd hefyd fod ei gŵyn am weddill y gwaith atgyweirio, a wnaed i ddechrau ym mis Rhagfyr 2019, heb symud ymlaen i Gam 1 o bolisi cwynion y Gymdeithas.

Efallai na fydd yr Ombwdsmon yn gallu penderfynu pwy sy’n atebol am newid y llawr. Awgrymodd y dystiolaeth y cafwyd oedi wrth uwch-gyfeirio cwyn Cam 1. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn.

Gofynnodd i’r Gymdeithas gwblhau ymchwiliad Cam 2 o broblem y llawr a’r cwynion a ystyriwyd cyn hynny yn ystod Cam 1.