Dyddiad yr Adroddiad

10/20/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202203174

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y ffordd yr oedd wedi cael ei drin gan y Cyngor, a’r wybodaeth a gafodd ganddo, a oedd yn ymwneud â cheisiadau am eiddo. Nid oedd y Cyngor wedi cydnabod bod ei gŵyn yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gwasanaethau oedd yn eu darparu pan oedd o’r farn ei bod y tu allan i’r broses gwyno gorfforaethol, gan ei bod yn ymwneud â llunio rhestr fer.

Er mwyn datrys y gŵyn hon, gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Cyngor i ystyried y mater hwn yn ffurfiol o dan ei broses gwyno gorfforaethol ac ymateb i bryderon Mr X, o fewn mis.