Dyddiad yr Adroddiad

09/26/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd - Rhentu Doeth Cymru

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202203647

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd wedi gallu ailosod y cyfrinair ar gyfer ei gyfrif ar-lein gydag RSW. Cwynodd ymhellach na gafodd ymateb i’w gais am gyswllt.
Cysylltodd yr Ombwdsmon ag RSW, a chytunodd i ffonio Mr X erbyn 30 Medi er mwyn ailosod ei gyfrinair. Yn ogystal, cytunodd i gyhoeddi ymateb ffurfiol i gŵyn Mr X erbyn 21 Hydref 2022.