Dyddiad yr Adroddiad

08/22/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202201280

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â thrwsio ei nenfwd er iddo gynnal nifer o archwiliadau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb i gŵyn a oedd yn mynd i’r afael yn benodol â phryderon Ms X ynghylch cyflwr ei nenfwd. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r canlynol i setlo’r gŵyn erbyn 19 Medi 2022, yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn mynd ati i ymchwilio i’r mater:

a) Ysgrifennu at Ms X i ymddiheuro am fethu â mynd i’r afael â’i phryderon penodol ynghylch cyflwr ei nenfwd

b) Darparu esboniad am yr amryfusedd hwn

c) Cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.