Dyddiad yr Adroddiad

07/08/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202201951

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd wedi derbyn ymateb gan y Cyngor yn dilyn ei chwyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chymydog.

Canfu’r Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb i gŵyn. Cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol i setlo cwyn Ms X erbyn 15 Gorffennaf 2022, yn lle bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddi:

a) Ymddiheuro i Ms X am fethu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon

b) Rhoi esboniad am yr oedi wrth ddarparu ymateb i gŵyn

c) Rhoi ymateb i’r gŵyn.