Dyddiad yr Adroddiad

04/07/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202104122

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Caerdydd wedi methu ag ymateb i gŵyn a wnaeth ym mis Mai 2021. Cwynodd hefyd am fethiant y Cyngor i atgyweirio tap bath oedd yn gollwng, a adroddwyd iddo am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2021.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Mr X wedi derbyn ymateb o sylwedd i’w gŵyn, a wnaedd ym mis Mai 2021. Canfu hefyd fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb yn unol â’i bolisi cwynion mewn perthynas â chwyn pellach a gyflwynwyd gan Mr X ym mis Gorffennaf 2021. O ran y tap bath oedd yn gollwng, canfu’r Ombwdsmon fod oedi o 11 mis cyn i’r Cyngor wneud y gwaith atgyweirio, ac nad oedd hyn yn unol â pholisi’r Cyngor ar gyfer ymateb i geisiadau brys neu geisiadau trwsio rheolaidd.
Ar gais yr Ombwdsmon cytunodd y Cyngor i ymgymryd â’r camau canlynol:

O fewn 20 diwrnod gwaith:

· Ymddiheuro i Mr X am y ffordd wael yr ymdriniwyd â’r gŵyn ac am fethu ag atgyweirio’r tap yn ei stafell ymolchi yn unol â’i bolisi.

· Darparu ymateb ffurfiol i gŵyn Mr X, a wnaed ym mis Mai 2021.

O fewn 5 diwrnod gwaith:

· Cynnig iawndal ariannol o £250 i Mr X i gydnabod y ffordd wael yr ymdriniwyd â’r gŵyn.

• Cynnig iawndal ariannol o £250 i Mr X i gydnabod yr oedi cyn atgyweirio’r tap yn ei stafell ymolchi.