Dyddiad yr Adroddiad

07/08/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Wales & West

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202201921

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am ymwelwyr a oedd yn aros yng nghartref ei gymydog gan dorri’r cytundebau tenantiaeth. Cwynodd hefyd am ddiffyg staff yn gwisgo masg, safon neu ddiogelwch y drws cymunedol, pobl yn ysmygu canabis, cyhuddiad o dorri ei gyfrinachedd, a staff y Gymdeithas yn osgoi ei alwadau ffôn.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Gymdeithas wedi rhoi sylw rhesymol i’r materion yn ymwneud ag ymwelwyr, ond penderfynodd y dylid rhoi ymateb ysgrifenedig pellach (erbyn 29 Gorffennaf) i fynd i’r afael â’r materion eraill nad oedd wedi ymateb iddynt yn barod.

Cytunodd y Gymdeithas i gyhoeddi’r ymateb ysgrifenedig pellach ac roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na’r angen i gynnal ymchwiliad.