Dyddiad yr Adroddiad

07/25/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202202455

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd ad-daliad oedd yn ddyledus iddi o wasanaethau glanhau ffenestri’r Gymdeithas wedi cael ei ad-dalu iddi eto. Cwynodd Miss X hefyd, er iddi gwyno roi cwyn ffurfiol i’r Gymdeithas nad oedd wedi cael ymateb eto.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Miss X wedi derbyn ymateb gan y Gymdeithas eto, a’i bod hefyd wedi dod ar draws oedi wrth dderbyn ad-daliad priodol. Yn lle ymchwiliad, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas a chytunodd y byddai’n anfon llythyr ymddiheuro i Miss X am y diffyg cyfathrebu erbyn 30 Awst 2022. Cytunodd y Gymdeithas hefyd y byddai’n ad-dalu’r swm sy’n ddyledus i Miss X, ynghyd â thaliad amser a thrafferth, a fyddai’n golygu taliad o £100 erbyn 30 Awst 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Miss X.