Dyddiad yr Adroddiad

11/07/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202204618

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am nad oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi gwneud gwaith trwsio yn ei chartref. Cwynodd hefyd am y diffyg ymateb i’w chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai yn aneglur ynglŷn â pha waith trwsio oedd angen ei wneud, a bod unrhyw oedi wedi bod cyn ymateb i gŵyn Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i gyfarwyddo syrfëwr i fynd i gartref Ms X i restru’r gwaith trwsio oedd angen ei wneud, rhoi amserlen ar gyfer gwneud y gwaith trwsio, a chynnig ymddiheuriad i Ms X am yr oedi cyn ymateb, a hynny o fewn 21 diwrnod.