Dyddiad yr Adroddiad

09/27/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Sŵn a materion niwsans arall

Cyfeirnod Achos

202102851

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot (“y Cyngor”) wedi gweithredu nac ymateb i’w bryderon ynghylch materion sŵn ac aflonyddu. Dywedodd hefyd fod y Cyngor wedi methu â darparu gwybodaeth yn unol â’i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOI).

Nododd yr Ombwdsmon nad yw’n ydmrin â chwynion am faterion Rhyddid Gwybodaeth a chyfeiriodd Mr A at swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Fodd bynnag, roedd yn pryderu nad oedd Mr A wedi derbyn ymateb llawn am y materion o sylwedd, ac nad oedd ei bryderon eto wedi’u hystyried o dan Gam 2 o broses gwynion gorfforaethol y Cyngor. Yn unol â hynny, fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i gyflawni’r camau canlynol:

  • Dwysáu cwynion Mr A i ymchwiliad Cam 2
  • Rhoi ymateb Cam 2 i Mr A o fewn 1 mis.