Dyddiad yr Adroddiad

07/01/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Rheoliadau a rheolaeth traffig (twmpathau cyflymder a.y.y.b.)

Cyfeirnod Achos

202100481

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd y deliodd y Cyngor â 2 gŵyn a gyflwynwyd mewn perthynas â chynllun traffig arfaethedig.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb yn brydlon i Mr A ynglŷn â’i ddwy gŵyn. Achosodd hyn straen a rhwystredigaeth i Mr A yn ei ymdrechion i gael ymateb gan y Cyngor.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro, o fewn 20 diwrnod gwaith, i Mr A a thalu iawndal o £250 iddo i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerodd wrth fynd ar drywydd ei gwynion.