Dyddiad yr Adroddiad

08/09/2012

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri

Pwnc

Parciau, Canolfannau a chyfleusterau awyr agored

Cyfeirnod Achos

202101965

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri (“y Cyngor Cymuned”) yn methu yn ei ddyletswydd i gynnal y gyfraith drwy beidio â defnyddio’r Pŵer Statudol sydd ar gael iddo i ddiogelu’r tir y maent wedi’i gofrestru fel Lawnt Pentref. Cwynodd Mr X hefyd fod y Cyngor Cymuned wedi cael ei ddal yn ôl wrth ddelio â’i gŵyn a’i fod wedi methu â dilyn y gweithdrefnau a’r polisïau a nodir yn ei Reoliadau Ariannol a’i reolau Sefydlog.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor Cymuned a chytunodd i wneud y canlynol:

a) Rhoi i Mr X ei benderfyniad, yn ysgrifenedig, nad yw’n gwneud penderfyniad ar Lawnt y Pentref hyd nes y bydd wedi derbyn gohebiaeth gan y Cyngor Sir ynghylch y cyngor cyfreithiol y mae wedi’i gael. Cytunodd y Cyngor Cymuned hefyd i gysylltu’n rheolaidd â’r Cyngor Sir, bob mis o leiaf, i fynd ar drywydd y mater hwn a chael y wybodaeth ddiweddaraf.

b) Bydd y Cyngor Cymuned yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr X, bob mis, am y cynnydd o ran cael y wybodaeth berthnasol gan y Cyngor Sir.

c) Bydd y Cyngor Cymuned, ar ôl derbyn y ohebiaeth gan y Cyngor Sir, yn gwneud ei benderfyniad ac yn cyfleu hyn yn ysgrifenedig i Mr X. Gwneir hyn o fewn 2 fis i’w dderbyn.