Dyddiad yr Adroddiad

05/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Y Barri

Pwnc

Mynwentydd ac Amlosgfeydd

Cyfeirnod Achos

202107940

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Mr X fod y Cyngor wedi dweud wrtho y gallai ei fam gael ei chladdu yn yr un bedd â’i dad. Fodd bynnag, ddiwrnod cyn angladd ei fam, dywedwyd wrtho nad oedd hyn yn bosibl a bu’n rhaid iddo wneud trefniadau eraill.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwneud camgymeriad gweinyddol pan ddywedodd wrth Mr X y gallai ei fam gael ei chladdu yn yr un bedd. Roedd y Cyngor wedi ymddiheuro ac roedd wedi cymryd camau priodol i atal yr un peth rhag digwydd eto. Ac ystyried effaith y camgymeriad hwn ar Mr X, cytunodd hefyd i ysgrifennu ato cyn pen 20 diwrnod gwaith i gynnig:

1. Talu unrhyw gostau storio ychwanegol ar gyfer carreg fedd ei fam, os na fydd modd ei newid o fewn y cyfnod 6 mis gwreiddiol disgwyliedig.

2. Dileu ffioedd y Cyngor am ddatgladdu ei rieni.
3. Dileu ffioedd y Cyngor am ail gladdedigaeth ei rieni.
4. Ad-dalu i Mr X y gost ychwanegol am y bedd newydd, os byddai’n bosibl i fedd gael ei adhawlio gan y Cyngor.

Cyflwynodd y Cyngor dystiolaeth i awgrymu bod bedd tad Mr X wedi cael ei durio i ddyfnder un bedd ar gais y Trefnwyr Angladdau. Canfu’r Ombwdsmon felly fod y camau yr oedd y Cyngor wedi’u cymryd wedi bod yn rhesymol i’r perwyl hwnnw.