Dyddiad yr Adroddiad

01/04/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Materion cynllunio arall

Cyfeirnod Achos

202105904

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Mrs X fod y Cyngor wedi trefnu i syrfëwr o’r Swyddfa Brisio ymweld â’i heiddo i werthuso effaith heulfan ei chymydog ar werth ei thŷ. Dywedodd, er ei bod wedi bod mewn cysylltiad â’r Cyngor ym mis Medi, ni dderbyniodd ddiweddariad pendant ac mae’r mater wedi bod yn mynd rhagddo ers mis Mawrth.
Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi ar ran y Cyngor wrth roi diweddariad pendant i Mrs X.

Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Cyngor roi diweddariad pendant ac ymddiheuriad am yr oedi a chytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd hefyd i ddarparu amserlen bendant ac ymrwymiad o ran pryd y byddai’r mater yn cael ei ddatrys, gan gynnwys amserlen debygol ar gyfer gwaith y syrfëwr. Cytunodd y Cyngor i roi’r wybodaeth hon i Mrs X o fewn 20 diwrnod gwaith.