Dyddiad yr Adroddiad

11/24/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Materion cynllunio arall

Cyfeirnod Achos

202204594

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am nad oedd y Cyngor wedi gwneud penderfyniad ar ei chais am orchymyn addasu mapiau diffiniol (“DMMO”) yn unol â chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (“PEDW”). Cwynodd hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w gohebiaeth ato, lle’r oedd wedi mynegi ei phryderon am y sefyllfa.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan PEDW ac nad oedd wedi cadarnhau i Mrs X pa bryd y byddai ei chais yn cael ei brosesu. Canfu hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i ddau e-bost a anfonwyd ato gan Mrs X, lle’r oedd wedi mynegi ei phryderon am y sefyllfa.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac i ddatrys cwyn Mrs X, cytunodd i wneud y canlynol:
O fewn 10 niwrnod gwaith:

• Ymddiheuro’n ysgrifenedig iddi am y methiant i wneud penderfyniad ar ei chais am DMMO yn unol â’r amserlen a oedd wedi’i phennu gan PEDW.
• Ymddiheuro’n ysgrifenedig iddi ac egluro ei fethiant i ymateb i’r ddau e-bost a anfonwyd ganddi i fynegi ei phryderon
• Rhoi cadarnhad ysgrifenedig iddi y bydd ei chais am DMMO yn cael ei gyflwyno, ac yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd i’w gynnal ym mis Ionawr 2023. Os na allai’r Pwyllgor gyflwyno’i benderfyniad ar lafar, bydd y Cyngor yn ei hysbysu o’r penderfyniad o fewn 5 niwrnod gwaith i ddyddiad y cyfarfod.