Dyddiad yr Adroddiad

10/27/2022

Achos yn Erbyn

Cartrefi Dinas Casnewydd

Pwnc

Llifogydd a difrod llifogydd

Cyfeirnod Achos

202204317

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L fod Cartrefi Dinas Casnewydd (“y Gymdeithas”) wedi methu datrys ei phryderon ynghylch ffin o amgylch ei heiddo sydd wedi’i leoli ar ffordd brysur. Cwynodd hefyd fod cyflymder y cerbydau a oedd yn teithio ar y ffordd honno wedi ei gadael yn ofni damwain, ac nad oes ganddi unrhyw warchodaeth pe bai hyn yn digwydd.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd cwyn Ms L wedi’i datrys eto, a chysylltwyd â’r Gymdeithas i drafod y mater. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas y byddai’n ysgrifennu at Ms L o fewn 30 diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon i amlinellu dau opsiwn gwahanol sydd ar gael iddi o ran y ffin, na fyddai’n costio dim i Ms L. Cytunodd y Gymdeithas hefyd y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms L ynghylch yr amserlenni a’r camau gweithredu tebygol cyn gynted ag y bo modd.