Dyddiad yr Adroddiad

03/17/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202107803

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr. Dywedodd Mrs X ei bod yn teimlo bod gofal ei gŵr yn is na’r safon oherwydd diffyg llawdriniaeth a chyfathrebu gwael. Cwynodd Mrs X hefyd am yr oedi yn ymateb y Bwrdd Iechyd yn dilyn ei chŵyn iddo ym mis Ebrill 2021.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb cynhwysfawr i Mrs X i roi sylw i’w chŵyn (erbyn 8 Ebrill). Dylai hefyd roi esboniad ac ymddiheuriad i Mrs X am yr oedi cyn ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.