Dyddiad yr Adroddiad

03/29/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202108137

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod y Feddygfa wedi newid amlder ei phresgripsiynau bob mis i bob pythefnos heb esboniad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Feddygfa roi ymateb ysgrifenedig i Miss X sy’n cydymffurfio â “Gweithio i Wella” (proses gwyno ffurfiol y GIG yng Nghymru) (o fewn 3 wythnos) a ddylai egluro’r rhesymau pam y bu newid yn amlder ei meddyginiaeth.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.