Dyddiad yr Adroddiad

11/14/2022

Achos yn Erbyn

Practis Meddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202204736

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am nad oedd wedi cael ymateb yn dilyn ei gŵyn i’r Feddygfa ym mis Gorffennaf 2022 am ei anhawster wrth geisio trefnu apwyntiad â meddyg.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Feddygfa wedi ymateb i’w gŵyn ac nad oedd ychwaith wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mr X.

Cytunodd y Feddygfa i ysgrifennu at Mr X gydag ymddiheuriad ac esboniad am y diffyg diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos, yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad i’r mater.