Dyddiad yr Adroddiad

08/05/2021

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202102613

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Practis”) wedi methu â darparu ymateb ysgrifenedig i’w chwyn ffurfiol yn unol â Rheoliadau Gweithio i Wella 2011.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Practis i gyfarfod â Mrs X a’i heiriolwr i egluro’n llawn y rhesymau pam nad oedd wedi ymateb yn ffurfiol ac i drafod ei phryderon. Yn dilyn hyn, cytunodd i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol yn unol â Gweithio i Wella.