Dyddiad yr Adroddiad

02/27/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202207467

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L, er iddi godi pryderon ym mis Mehefin 2022, nad oedd wedi cael ymateb na datrysiad i’w chwyn.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Feddygfa wedi methu â chydymffurfio â’i threfn gwyno statudol, a dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ysgrifennu at Ms L a darparu ymddiheuriad ac ymateb o fewn 30 diwrnod gwaith.